Annwyl Gyfaill
Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sefydlwyd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ystyried deisebau derbyniadwy a gyflwynir i’r Cynulliad. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gynnal adolygiad o System Ddeisebau’r Cynulliad, sydd wedi bod ar waith ar ei ffurf bresennol ers 2007.
Rwy’n ysgrifennu atoch oherwydd y gall eich sefydliad fod â diddordeb yn ein gwaith, neu efallai eich bod wedi ein cynorthwyo yn y gorffennol i ystyried deisebau unigol. Byddem yn gwerthfawrogi eich barn yn fawr ar y system gyfredol, yn ogystal ag ar newidiadau posibl.
Mae’r materion y mae’r Pwyllgor â diddordeb arbennig ynddynt yn cynnwys:
· y meini prawf cyfredol o ran derbyniadwyedd;
· sut yr ymdrinnir â deisebau derbyniadwy; ac
· ym mha ffordd y gall fod angen newid rheolau a systemau eraill y Cynulliad er mwyn cefnogi unrhyw welliannau a argymhellir.
Yn atodedig i’r llythyr hwn mae dogfen sy’n egluro’r trefniadau presennol yn fwy manwl. Mae hefyd yn gofyn nifer o gwestiynau y byddem yn ddiolchgar am eich barn yn eu cylch. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 17 Gorffennaf 2015 i Glerc y Pwyllgor Deisebau yn SeneddDeisebau@Cynulliad.cymru neu yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad isod.
Yn dibynnu ar yr ymatebion, efallai y bydd y Pwyllgor yn penderfynu gwahodd rhai rhanddeiliaid i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor i esbonio eu hymatebion ymhellach, ac i ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Nodwch os byddai’n well gennych beidio â chael eich gwahodd i roi tystiolaeth yn y ffordd hon.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir
William Powell AC
Cadeirydd y Pwyllgor